Showing posts with label SAIN TATHAN AC ACADEMI HEDDWCH CYMRU. Show all posts
Showing posts with label SAIN TATHAN AC ACADEMI HEDDWCH CYMRU. Show all posts

07/10/2010

Dweud y gwir am PFI, Metrix a’r Coleg Milwrol yn Sain Tathan

Dweud y gwir am PFI, Metrix a’r Coleg Milwrol yn Sain Tathan

Yn Ionawr 2007 fe gyhoeddodd San Steffan fwriad i greu coleg milwrol newydd yn Sain Tathan. Fe ddathlodd gwleidyddion Cymru'r newyddion fel un o’r pethau gorau a ddigwyddodd yng Nghymru ac i’r economi erioed, gyda deg mil o swyddi, nawr wedi’u profi'n anghywir. Fodd bynnag, bydd y prosiect hwn yn integreiddio hyfforddiant milwyr Prydeinig a hefyd yn gam tuag at breifateiddio rhyfel a militareiddio Cymru. Bydd yn ein hymrwymo am 30 mlynedd i gonsortiwm ble mae masnachwyr arfau rhyngwladol yn bartneriaid amlwg. Y mae partneriaeth Metrix yn cynnwys Cwmni Raytheon, cynhyrchwyr taflegrau Tomahawk sy’n euog o ollwng bomiau clwstwr a sieliau wraniwm hysb.  Y prif bartneriaid yw Qinetiq a Sodexo, gyda’i record dadleuol ym maes rheoli carchardai.
  
Bargen wael i’r trethdalwyr a’r costau’n cynyddu
Pan gyhoeddwyd gyntaf, cost y pecyn CYFLAWN oedd £14 biliwn. Yna hepgorwyd pecyn 2 a gostyngodd y gost i £11 biliwn. Yn 2008 cytunodd MoD i gwtogi oriau gwaith y prentisiaid 25%, ond eto cynyddodd y costau i £12 biliwn. Dywedwyd £13 biliwn mewn Ymchwiliad Cyhoeddus yn Ionawr 2010, ond nawr, yng Ngorffennaf 2010, mae’r Gweinidog Amddiffyn yn nodi £14 biliwn!

Pam nad yw’r Cynulliad a gwleidyddion Cymreig yn gwrthod Metrix?
Mae gan lawer o gwmnïau a chronfeydd pensiwn bolisïau moesegol - pam nad oes un gan y Cynulliad? Bwriad Metrix yw cynyddu eu helw drwy hyfforddi milwyr o wledydd eraill, ar wahân i Brydain.  Gallai milwyr o Bacistan, Malaysia, a gwladwriaethau mwy amheus, gael eu hyfforddi yng Nghymru. Honna gwleidyddion y Cynulliad mai penderfyniad San Steffan oedd Sain Tahan, ond llafuriodd y WDA a gweithwyr sifil yn galed i wireddu’r cynllun, gan roi pob cymorth i Metrix. Gyda’r sôn am ‘swyddi’ a buddsoddiad enfawr, twyllwyd gwleidyddion Cymru.


16/06/2009

SAIN TATHAN AC ACADEMI HEDDWCH CYMRU

‘Sant Tathan ac Academi Heddwch Cymru’ to be published this week in Y Pedair Tudalen (the three weekly religious magazines: Y Goleuad, Seren Cymru, and Y Tyst). In this note I ask the readers to oppose the two planning applications re. St Tathan, and to attend the Cynefin y Werin meeting in Aberystwyth, 4 July.

SAIN TATHAN AC ACADEMI HEDDWCH CYMRU Robin Gwyndaf

Na i wario 12 biliwn o bunnoedd ar ddatblygu Academi Filwrol Sain Tathan. Na i ganiatau i’r Fyddin hysbysebu ar S4C a sianelau eraill y teledu. Na i Trident. A na i Gymru gael ei thraflyncu gan y traddodiad Prydeinig ymerodraethol a militaraidd. Na i ddiwylliant rhyfel.

Ond ie i greu diwylliant heddwch ac Academi Heddwch i Cymru. Nid Sefydliad (Institute) gyda’r prif bwyslais ar ymchwil yn unig, ond Academi i gynghori’r Cynulliad a’r Llywodraeth Brydeinig ac i ddylanwadu ar bolisi. Yn bwysicach na dim, Academi i sicrhau bod astudiaethau heddwch, cyfiawnder a hawliau dynol yn cael eu cyflwyno yn ysgolion a cholegau Cymru.

Dyna oedd byrdwn yr erthygl y bu’r Parchg John Pritchard, y Golygydd, mor garedig â’i chyhoeddi yn rhifyn 24 Ebrill o’r Pedair Tudalen. Mawr ddiolch iddo.

A mawr ddiolch hefyd i’r rhai ohonoch chwithau a fu mor barod ag ymateb i’r erthygl honno. Ac yn awr mi garwn i estyn gwahoddiad caredig i bawb o’r darllenwyr ddod i’r adwy i fod â rhan bersonol a gweithredol mewn dau weithgarwch sydd, yn fy marn i. o’r pwys mwyaf, sef: gwrthwynebu’r datblygiad yn Sain Tathan a chefnogi’r bwriad i sefydlu Academi Heddwch i Gymru.

A dyma’r gwahoddiad cyntaf. Ar hyn o bryd y mae dau gais am ganiatâd cynllunio gerbron Cyngor Bro Morgannwg.

1. Cais (rhif 2009/00500/FUL) gan Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, Cwmni Metrix UK Cyf. a Chwmni Sodexo Cyf. i ddatblygu Academi yn Sain Tathan (neu Goleg Technegol Amddiffyn, fel y’i gelwir bellach).

2. Cais (rhif 2009/00501/FUL) gan ‘Y Gweinidogion Cymreig’ i ddatblygu yn Sain Tathan Barc Busnes Awyrfodol (Aerospace).

Dyma, felly’r gwahoddiad cyntaf, yn wir, apêl: a wnewch chi fel unigolion nodi eich gwyrthwynebiad cryfaf posibl i’r ddau gais uchod, a threfnu hefyd i’ch eglwysi wneud yr un modd, gan nodi rhifau’r ceisiadau. A gwneud hynny, os yn bosibl, o fewn dyddiau wedi darllen y nodyn hwn, Y mae brys mawr. Bydd yfory yn rhy hwyr. A dyfynnu geiriau Abiah Roderick:

Dyw’r felin ddim yn malu
Â’r dŵr sydd wedi mynd.

Y cyfeiriad i anfon eich gwrthwynebiad yw: D R Thomas, Pennaeth Cynllunio a Thrafnidiaeth, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfa’r Doc, Dociau’r Barri, Y Barri, Bro Morgannwg, CF63 43T.

Yr ail wahoddiad yw hwn: brynhawn Sadwrn, 4 Gorffennaf 2009, am 2.00pm, yn Y Morlan, Aberystwyth, cynhelir cyfarfod o Gynefin y Werin. A’r amcan? Ystyried y bwriad i sefydlu Adademi Heddwch i Gymru. Unwaith eto, dyma gais caredig i bawb sy’n dymuno heddwch i Gymru ac i’r byd: byddai’n hyfryd pe gallech fod yn bresennol yn y cyfarfod pwysig hwn.

Pob bendith a myrdd o ddiolch.